Cyfluniad Rhwydwaith

Canfyddir unrhyw ddyfeisiau rhwydwaith sydd gennych yn awtomatig gan y raglen arsefydlu a'u dangos yn y rhestr Dyfeisiau Rhwydwaith.

I gyflunio'r ddyfais rwydwaith, dewiswch y ddyfais yn gyntaf wedyn cliciwch Golygu. Yn y sgrîn Golygu Rhyngwyneb gallwch ddewis cyflunio'r wybodaeth IP a Masg rhwyd drwy DHCP neu gallwch ei rhoi â llaw. Gallwch hefyd ddewis gweithredoli'r ddyfais yn ystod amser cychwyn.

Os nad oes gennych gyrchiant dibynnydd DHCP neu'ch bod yn ansicr beth yw'r wybodaeth yma, cysylltwch â Rheolwr eich Rhwydwaith.

Os yw'ch system yn ran o rwydwaith mwy lle neilltuir enwau gwesteiwyr gan DHCP, dewiswch yn awtomatig drwy DHCP. Fel arall, dewiswch â llaw a rhowch enw gwesteiwr sail FQHN ar gyfer eich system (megis enw.enghraifft.com). Os na wnewch hynny, gelwir eich system yn "localhost".

Yn olaf, os roddoch y wybodaeth IP a Masg rhwyd â llaw, gallwch hefyd roi cyfeiriad Porthydd a chyfeiriadau'r DNS cynradd, eilaidd, a thrydyddol.